Cwblhau gwaith gwella mawr yn Llanelwy

Cwblhawyd prosiect mawr gwerth £1.5 miliwn i wella'r amgylchedd ar Ystad Bro Havard yn Llanelwy gan Tai Sir Ddinbych, ac mae hyn wedi gwella’r ardal yn sylweddol.

Tai Sir Ddinbych ynghyd â’r contractwr Dawnus Construction a gwblhaodd y gwaith er budd tenantiaid y Cyngor a’r gymuned ehangach. Roedd y gwaith yn cynnwys ailadeiladu’r briffordd, creu ffordd newydd ym Mharc Stanley, cyfleusterau parcio ychwanegol, cysylltiadau gwell i gerddwyr, mesurau gostegu traffig ychwanegol a thirlunio ysgafn.

Roedd y gwaith tirlunio’n cynnwys plannu coed o rywogaethau cynhenid, llwyni a blodau gwyllt a fydd yn darparu lliw a diddordeb i’r preswylwyr drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â gwella bioamrywiaeth ar yr ystad.

Tîm o adrannau Tai a Phriffyrdd y Cyngor oedd yn gyfrifol am y syniad, y gwaith dylunio a goruchwylio’r gwaith adeiladu, a ddechreuodd ym mis Medi 2017 a gorffen ym mis Tachwedd eleni.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cyngor dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Mae'r prosiect hwn yn rhan o'n hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cymunedau a hyrwyddo lleoedd llesol i fyw wrth wella cymdogaethau, seilwaith a'r gymuned ehangach, sy’n flaenoriaethau yn ein Cynllun Corfforaethol.

“Mae preswylwyr wedi dweud wrthym pa mor hapus ydyn nhw gyda’r gwelliannau, yn enwedig y rheini sy’n byw yn fflatiau Heol Afon a Pharc Stanley, sydd wedi elwa o ddarparu baeau parcio newydd a pharcio oddi ar y ffordd, yn ogystal â gwelliannau mawr yn y mannau gwyrdd.”

Cafwyd buddsoddi yn y prosiect gan Tai Sir Ddinbych a chefnogaeth gan y Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru yn rhan o’r Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol.

Cynhaliwyd y gwaith yn dilyn Arolwg Tenantiaid a Phreswylwyr Tai Sir Ddinbych a nododd fod parcio yn broblem.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: “Mae barn ein tenantiaid yn bwysig i ni ac yn siapio beth rydyn ni’n ei ddarparu o fewn ein gwasanaethau, felly byddwn yn parhau i siarad â’n tenantiaid am beth sy’n bwysig iddyn nhw i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl.”