Gwobr y Deyrnas Unedig i gynllun adfywio tai yn y Rhyl

Mae cynllun tai arloesol sy’n rhan ganolog o gynllun adfywio’r Rhyl wedi ennill gwobr bwysig ar lefel y Deyrnas Unedig.

Cynllun Stryd Gronant a Stryd yr Abaty a ddatblygwyd gan Grŵp Tai Pennaf, gerllaw Gerddi Heulwen yn y Rhyl, oedd enillydd cyffredinol gwobr y ‘Prosiect Adfywio Gorau (dan 70 o gartrefi)’ yn Seremoni Wobrwyo Inside Housing UK 2018, a gynhaliwyd yn Llundain yr wythnos diwethaf.

Mae’r cynllun yn elfen allweddol o’r prosiect partneriaeth adfywio trefol trawsnewidiol mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

Mae’r cartrefi yn gymysgedd o dai fforddiadwy i’w rhentu neu eu prynu dan gynllun benthyciadau Cymorth Prynu Llywodraeth Cymru. Fe’i rheolir gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, aelod o Grŵp Tai Pennaf.

“Rydyn ni wedi gwirioni’n lân bod y cynllun uchelgeisiol, blaengar hwn wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol. Mae’n deyrnged i fwy na degawd o weithio goleuedig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych oedd â’r weledigaeth i gydnabod bod darparu tai fforddiadwy o safon uchel i bobl leol yn rhan ganolog o’r gwaith i drawsnewid y dref,” dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu i Pennaf.

Dywedodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans: “Rydyn ni wedi darparu buddsoddiad o £2.7 miliwn i’r cynllun rhagorol hwn, sy’n creu tai fforddiadwy y mae galw mawr amdanynt gan bobl yn y Rhyl.  Bydd yn cyfrannu at gyrraedd ein targed o greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hwn, ac yn chwarae rhan bwysig wrth adfywio’r Rhyl. Mae hwn yn gynllun gwych sy’n dod â manteision mawr i’r dref drwy gydweithio ac rwyf am longyfarch pawb a fu’n rhan ohono.”

Mae’r datblygiad £3.6 miliwn yn un o nifer o wahanol opsiynau tai a grëwyd o gwmpas Gerddi Heulwen ac yn ogystal ag ennill y ‘Wobr Prosiect Adfywio’ roedd hefyd ar y rhestr fer yn y categorïau ‘Datblygiad Preswyl Gorau (dan 70 o gartrefi)’ a’r ‘Datblygiad Tai Fforddiadwy Gorau (dan 25 o gartrefi)’.

Meddai’r Cynghorydd Tony Thomas, aelod arweiniol y Cyngor dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd: “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r datblygiad hwn. Mae’r Cyngor yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect hwn, sy’n rhan allweddol o’r gwaith i adfywio’r Rhyl ac yn helpu i ddarparu tai o ansawdd da yn y Sir.”