Gwaith wedi’i gwblhau ar effeithlonrwydd ynni cartrefi yn y Rhyl
Mae gwaith effeithlonrwydd ynni wedi cael ei gwblhau ar 41 o gartrefi Cyngor yn y Rhyl.
Mae gwaith wedi dod i ben ar gymal dau o welliannau ynni sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ar eiddo Tai Sir Ddinbych yn Rhydwen Drive, Y Rhyl.
Mae paneli solar wedi cael eu gosod i gynhyrchu trydan sydd yn cael ei storio mewn batris sydd wedi’u gosod yn y cartrefi er mwyn gallu defnyddio ynni min nos.
Yn ogystal, mae gwaith insiwleiddiad i waliau allanol wedi cael ei gynnal i gefnogi’r gwaith o leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i gynhesu cartrefi, yn enwedig yn ystod y gaeaf.
Ar ôl cwblhau cymal dau, mae cyfanswm o 96 eiddo Tai Sir Ddinbych ar Rhydwen Drive wedi cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Rydym ni’n falch o weld bod cam dau y prosiect i wella effeithlonrwydd ynni i 41 o gartrefi ar Rhydwen Drive wedi cael ei gwblhau. “Roeddwn i’n falch o ymweld â Rhydwen Drive yn ddiweddar a chyfarfod rhai o’r tenantiaid sydd yn byw yn rhai o’r cartrefi lle bu’r gwaith. Roeddwn nhw’n falch iawn gydag ymddangosiad eu cartrefi a gyda’r effaith roedd y paneli solar ac insiwleiddiad ychwanegol yn ei gael i leihau eu biliau tanwydd mewn cyfnod o gostau ynni uchel.”