Canolfannau Cymunedol

Lle y bo modd, rydym yn darparu adnoddau i gymunedau ar gyfer cyfarfod a chynnal gweithgareddau yn ein canolfannau cymunedol. Er nad yw Tai Sir Ddinbych yn berchen ar gyfleusterau cymunedol, byddwn yn ceisio helpu i ddarparu adnoddau eraill.

Er mwyn eich helpu i redeg ein cyfleusterau cymunedol yn hwylus, mewn ffordd agored ac atebol, rydym wedi llunio Llawlyfr Canolfannau Cymunedol. Mae’r llawlyfr hwn yn ganllaw sydd ar gael i’w ddefnyddio gan gymdeithasau preswylwyr a sefydliadau allanol sy’n eu llogi.

Mae dau fath o ganolfan gymunedol:

Canolfannau annibynnol sydd heb gysylltiad â grŵp tai penodol. Y rhain yw:

  • Pengwern, Llangollen
  • Phoenix, y Rhyl

Canolfannau seiliedig ar gynlluniau sy’n gysylltiedig â grŵp o dai, sy’n cynnwys:

  • Llys y Felin, Llanelwy
  • Cysgodfa, Dinbych
  • Trem y Foel, Rhuthun
  • Llygadog, Corwen

Dyma restr o rai o’r gweithgareddau sy’n digwydd yn ein canolfannau cymunedol:

  • Clybiau gwaith cartref
  • Grwpiau celf a chrefft
  • Boreau coffi
  • Clybiau cinio
  • Gweithgareddau cymdeithasol
  • Clybiau swyddi
  • Digwyddiadau cymunedol

I gael gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn eich canolfannau cymunedol, cysylltwch â ni.

Hefyd mae llawer o wybodaeth ar gael am bethau sy’n digwydd mewn grwpiau a gwasanaethau yn eich cymuned ar wefan Dewis. Mae’n darparu gwybodaeth i’ch helpu i ystyried beth sy’n bwysig i chi a gwybodaeth am sefydliadau a gweithgareddau lleol.