Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Mae’r gyfraith tai yn newid - beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ein tenantiaid

Mae’r gyfraith tai yn newid - beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ein tenantiaid

CWESTIYNAU A OFYNNIR YN AML

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - beth yw hwn?

  • O 1 Rhagfyr 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r Ddeddf Rhentu Cartrefi. Bydd hyn yn newid y ffordd rydym yn rhentu ein cartrefi, gan wella profiad rhentu ar gyfer holl denantiaid, pwy bynnag yw eu landlord. 
  • Bydd y ddeddf newydd yn gwella’r ffordd rydym yn rhentu, rheoli a sut mae tenantiaid yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.
  • Bydd yn darparu mwy o amddiffyniad i denantiaid, ac yn gwneud eu hawliau a chyfrifoldebau yn fwy eglur.

Pam ei fod yn newid?

  • Byddwn yn rhoi contract ysgrifenedig i’n tenantiaid, yn nodi eu hawliau a chyfrifoldebau.

Beth sy’n newid?

  • Byddwch yn clywed ac yn gweld terminoleg newydd yn cael ei ddefnyddio e.e. 
    • Bydd cytundeb tenantiaeth yn cael ei alw’n Gontract Meddiannaeth.
    • Bydd tenantiaid yn cael eu galw’n Ddeiliaid Contract.
  • Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan Gontractau Meddiannaeth erbyn diwedd Mehefin 2023.
  • Bydd gan denantiaid fwy o sicrwydd yn y cartref, gan fydd angen rhoi 6 mis o rybudd, os nad yw’r contract wedi ei dorri.
  • Rhaid i’r holl gartrefi fod yn ddiogel i fyw ynddynt. Er enghraifft, larymau mwg sy’n gweithio a phrofion diogelwch trydan.
  • Bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei drin yn deg ac yn gyson.
  • Gall ddeiliaid contract gael eu hychwanegu neu eu tynnu heb yr angen i ddod â’r contract i ben.
  • Mae gan denantiaid fwy o hawliau olynu er mwyn pasio eu cartrefi ymlaen.

Beth mae’r newidiadau hyn yn ei olygu i’n tenantiaid?

  • Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Byddwn yn darparu contractau/cytundebau newydd i’n tenantiaid a fydd yn fwy syml i’w deall ac yn gwella eu hawliau.
  • O dan y gyfraith newydd, bydd tenantiaid yn cael eu galw’n ‘ddeiliaid contract’. Bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan ‘gontractau meddiannaeth’. 
  • Ar gyfer ‘deiliaid contract’ (tenantiaid) bydd hyn yn golygu:
    • Derbyn contract ysgrifenedig yn nodi eu hawliau a chyfrifoldebau.
    • Hawliau olynu gwell. Mae’r rhain yn nodi pwy sydd gan yr hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i’r tenant presennol farw.
    • Trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei wneud yn haws i ychwanegu neu dynnu eraill o gontract meddiannaeth.

Sut fydd hyn yn effeithio ein tenantiaid?

  • Bydd ein tenantiaid presennol yn derbyn contract meddiannaeth newydd o fewn 6 mis o 1 Rhagfyr. Pan fydd y contract meddiannaeth yn cyrraedd, bydd y Cytundeb Tenantiaeth presennol yn dod yn annilys.
  • Bydd tenantiaid newydd ar ôl 1 Rhagfyryn arwyddo’r contract meddiannaeth newydd yn y ffordd arferol, ac yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod.
  • Bydd y contract meddiannaeth yn cael ei nodi mewn ‘datganiad ysgrifenedig’. Bydd y datganiad hwn yn cadarnhau telerau’r contract ac yn cynnwys yr holl delerau dan gontract gofynnol fel y darperir gan Lywodraeth Cymru. Y rhain yw:
    • Materion allweddol: Er enghraifft, enwau’r landlord a’r deiliaid contract a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid i’r rhain gael eu cynnwys ymhob contract.
    • Telerau Sylfaenol: Yn cynnwys agweddau mwyaf pwysig y contract, gan gynnwys sut rydym yn cael meddiant a’n rhwymedigaethau o ran atgyweirio.
    • Telerau Atodol: Yn sôn am y materion mwy ymarferol, dydd i ddydd sy’n gymwys i’r contract meddiannaeth.  Er enghraifft, y gofyniad i’n hysbysu ni os fydd yr eiddo yn cael ei adael heb ei feddiannu am bedair wythnos neu fwy.
    • Telerau Ychwanegol: Mynd i’r afael ag unrhyw faterion penodol cytunedig eraill, er enghraifft telerau mewn perthynas â chadw anifeiliaid anwes.

A fydd y tenantiaid yn dal i fod yn denant o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi?

Bydd, mi fyddent yn dal i fod yn denantiaid. Bydd eu cytundeb tenantiaeth yn cael ei alw’n gontract meddiannaeth.

Beth sy’n digwydd i’r cytundeb tenantiaeth presennol ar ôl 1 Rhagfyr?

Bydd ein cytundebau tenantiaeth presennol yn cael eu trosi i ‘gontractau meddiannaeth’, a fydd yn dod yn lle’r cytundeb tenantiaeth. Bydd nifer o’n telerau presennol yn aros yr un fath ond bydd rhai pethau’n newid e.e. rhaid i ni roi mwy o rybudd i’n tenantiaid o gynnydd mewn rhent.

A fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhent?

Na, ni fydd hyn yn effeithio ar y rhent nac yn costio unrhyw beth i’r tenant.

Beth yw’r gofynion Ffitrwydd i Bobl Fyw?

Mae’r newid hwn mewn cyfraith yn helpu i sicrhau ein bod yn cynnal a chadw ein cartrefi er mwyn eu hatal rhag dod yn anaddas i denantiaid fyw ynddynt. Mae’r prif bwyntiau yn cynnwys:

  • Lleihau damprwydd a chyddwysiad.
  • Sicrhau fod:
    • Larymau mwg wedi’u weirio ar bob llawr yn y cartref.
    • Larymau carbon monocsid sy’n gweithio’n iawn ymhob ystafell lle mae offer nwy, offer tân olew neu offer tanwydd solet.
  • Sicrhau ein bod yn gwneud archwiliad diogelwch trydanol o leiaf unwaith bob pum mlynedd a bod adroddiad cyflwr trydanol dilys mewn lle.

Beth sydd angen i’n tenantiaid ei wneud?

Pan fydd ein tenantiaid yn cael eu contract meddiannaeth newydd, bydd angen iddynt ei ddarllen er mwyn sicrhau eu bod yn deall eu hawliau a chyfrifoldebau.

Rhagor o wybodaeth:

Mae’r newidiadau hyn wedi’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid megis TPAS Cymru ac mewn partneriaeth â Shelter cymru. Ewch i’w gwefan i gael rhagor o wybodaeth. 

I gael rhagor o wybodaeth a chwestiynau cyffredin a grëwyd gan Lywodraeth Cymru, ewch i.

I gael fersiwn hawdd ei ddeall o’r newidiadau i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gan Lywodraeth Cymru, ewch i. (sylwch efallai nad yw’r ddogfen hon yn hygyrch)

https://llyw.cymru/mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi?_ga=2.178982372.1925302907.1662456247-212000122.1651586041