Gwella’ch rhagolygon am waith

Mae gan Sir Ddinbych nifer o gyfleoedd i bobl gael dysgu a dilyn cyrsiau hyfforddi ledled y sir ac ar-lein.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod, mewn perygl o fod yn ddi-waith a thlodi ac eisiau cymorth i gael gwaith neu i ddatblygu yn y gwaith, mae’r canlynol yn sefydliadau a all helpu trwy ddarparu cefnogaeth ac arweiniad gyda:

  • Cymhelliant a hyder
  • Cyngor ac arweiniad un i un
  • Cyfleoedd hyfforddi
  • Gwirfoddoli
  • Ysgrifennu CV
  • Profiad gwaith
  • Technegau cyfweliad
  • Ymgeisio am swyddi
  • Cyllid personol
  • Cyfrifoldebau gofalu

Gwybodaeth ddefnyddiol - cliciwch ar y dolenni canlynol i fynd i bob gwefan i gael mwy o gyngor.

  • Sir Ddinbych yn Gweithio - Yno i helpu preswylwyr 16 oed a hŷn a allai fod yn ei chael yn anodd neu sy’n poeni am arian. Os ydych yn edrych am waith neu angen cymorth i gael trefn ar eich bywyd, rydym yma i’ch arwain tuag at well dyfodol.
  • e-Cymru – Maent yn credu mewn cydweithio i greu lle hawdd, hygyrch ar gyfer gweithgareddau, gwybodaeth a chymorth a fydd yn eich helpu i fyw bywydau hapusach ac iachach. https://ecymru.co.uk/   
  • Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych – Maent yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ganfod eu ffordd ymlaen - pwy bynnag ydynt, a beth bynnag fo’u problem. https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Gwaith/ 
  • Y Ganolfan Byd Gwaith - Eu nod yw cysylltu’r rhai sy’n chwilio am waith gyda chyflogwyr trwy gynnig amrywiol wasanaethau megis cymorth i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliad, a mynediad at ffeiriau swyddi.  https://www.gov.uk/chwilio-am-swydd