Mathau o denantiaeth
Mae nifer o fathau o denantiaeth ar gael ac mae pob un yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau gwahanol i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:
Tenantiaeth Ragarweiniol:
Mae pob tenant newydd yn cael Contract Tenantiaeth ‘ragarweiniol’ sy’n para am 12 mis, ac sy’n debyg i Contract Denantiaeth brawf. Y prif bwyntiau am Contract Denantiaeth o’r math hwn yw:
- Mae’n rhoi’r rhan fwyaf o’r hawliau sydd mewn Contract Tenantiaeth ddiogel, ond gall fod yn haws eich troi allan.
- Ar yr amod na fyddwch chi’n torri’ch Contract Tenantiaeth yn ystod y 12 mis cyntaf, byddwch chi’n dod yn denant diogel yn awtomatig, oni bai ein bod ni wedi cychwyn achos i ddod â’ch Contract Tenantiaeth i ben.
- Rydyn ni’n cadw’r hawl i estyn y cyfnod prawf mewn rhai amgylchiadau.
Mae terfynau ar beth allwch chi ei wneud tra byddwch chi’n denant rhagarweiniol, er enghraifft:
- Gwneud gwelliannau i’ch cartref
- Ffeirio’ch cartref â thenant arall
Yn ystod cyfnod y Contract Denantiaeth Ragarweiniol, os byddwch chi’n torri amodau yn eich Contract Tenantiaeth, yna gallwn ni ddod â’r Contract Denantiaeth i ben drwy roi hysbysiad i chi, heb ddarparu rhesymau i lys. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Tenantiaeth Ddiogel:
Ar ôl 12 mis cyntaf y Contract Tenantiaeth ragarweiniol, bydd y rhan fwyaf o’n tenantiaid yn dod yn denant diogel yn awtomatig. Y prif wahaniaethau yw:
- Bydd gennych chi fwy o hawliau cyfreithiol nag mewn Contract Tenantiaeth ragarweiniol a gallwch chi wneud y canlynol:
- Cymryd lletywr ond ni fyddwch yn gallu is-osod yr eiddo cyfan
- Ffeirio’ch cartref am eiddo arall neu â thenant cymdeithas dai
- Gwneud cais am drosglwyddo (aseinio) eich Contract Tenantiaeth i rywun arall sydd mewn amgylchiadau tebyg
- Gwneud gwelliannau i’ch cartref ar ôl cael caniatâd gennyn ni
- Rhaid i chi barhau i ymddwyn yn gyfrifol a chadw at amodau’ch Contract Tenantiaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am fathau o Contract Denantiaeth, edrychwch ar eich Contract Tenantiaeth
Tenantiaeth Un Person a Chyd-denantiaeth:
Gall ein tenantiaethau fod yn Contract Denantiaeth un person neu’n gyd-denantiaeth â rhywun arall. Byddwn ni’n cynnig Conract Denantiaethau yn ôl ein disgresiwn. Ar ôl cytuno ar Contract Denantiaeth, ni fydd yn hawdd i ni ychwanegu na dileu enwau ar eich cais, yn wahanol i Gymdeithasau Tai eraill. Os ydych chi am ychwanegu enw rhywun i’ch Contract Tenantiaeth, bydd angen i chi wneud cais i ni. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Tenantiaeth Un Person:
Pwy bynnag sydd â’i enw ar y Contract Tenantiaeth, hwnnw fydd yn llwyr gyfrifol am y Contract Tenantiaeth â ni.
Contract Cyd-Denantiaeth:
Mae hyn yn golygu mai’r un hawliau a chyfrifoldebau fydd gan y ddau ohonoch chi. Fel arfer byddwn ni’n cynnig Contract Tenantiaeth o’r math hwn i gyplau sefydledig, ond gallwn ystyried ceisiadau am denantiaeth rhwng aelodau eraill o’r teulu. Er hynny, ni fyddem yn cynnig Contract cyd-Denantiaeth i riant a phlentyn fel arfer.