Cartrefi sy’n effeithlon o ran ynni yn barod i breswylwyr
Mae rhandai ynni-effeithlon newydd y Cyngor ym Mhrestatyn yn barod i groesawu preswylwyr dros y rhiniog.
Mae’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau ar y pedwar fflat un ystafell wely ar safle hen ffreutur Ysgol Bodnant ar Ffordd Caradoc.
Mae fflatiau carbon isel Tai Sir Ddinbych wedi’u hardystio i safon effeithlonrwydd ynni Passivhaus. Cafodd y gwaith o’u hadeiladu, a wnaed gan Gontractwyr Adeiladu Peter T Griffiths o Ogledd Cymru, ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Tai Arloesol.
Mae’r cartrefi newydd yn rhan o ymgyrch y Cyngor i leihau amseroedd aros am lety drwy fynd i’r afael â’r angen am fwy dai. Mae’r cartrefi wedi’u hadeiladu i fod yn dra effeithlon o ran eu defnydd o ynni er mwyn lleihau pwysau costau byw ar ein tenantiaid ar yr un pryd a helpu Sir Ddinbych a Chymru i gyrraedd eu targedau di-garbon.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r Cyngor yn falch iawn o allu croesawu preswylwyr i’r cartrefi newydd yma ym Mhrestatyn, ac yn ddiolchgar am holl gefnogaeth ein partneriaid a fu’n gweithio ar y prosiect hwn.”
“Mae sicrhau bod yna gartrefi ar gael i ddiwallu anghenion trigolion y Sir yn flaenoriaeth i ni. Bydd y fflatiau hyn yn helpu i ddiwallu anghenion tai trigolion drwy ddarparu llety o ansawdd sydd nid yn unig yn fforddiadwy ond hefyd wedi’u hadeiladu hyd y safonau uchaf i helpu i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon a gostwng biliau’r cartref.”