Fflatiau cyngor yn cael hwb effeithlonrwydd ynni modern
Mae’r manylion gorffenedig yn cael eu rhoi ar brosiect toi ynni effeithlon yn Llangollen.
Mae Tîm Tai Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio i newid y to fflat ar fflatiau Aberadda yn Llangollen.
Cafodd y fflatiau eu hadeiladu yn wreiddiol yn y 1960au, pan oedd toeau fflat yn rhan boblogaidd o’r bensaernïaeth.
Mae’r Cyngor wedi atgyweirio’r to yn y gorffennol, ond mae yna bob amser ddiffygion yn nyluniad gwreiddiol y fflatiau.
Lansiodd Tai Sir Ddinbych y prosiect i wella'r to, cynyddu effeithlonrwydd ynni'r adeilad a gwella ymddangosiad cyffredinol y fflatiau.
Mae gweithwyr wedi adeiladu dros y to presennol, gyda tho ffrâm ddur ar ongl. Nid yn unig y mae hyn wedi cael gwared â'r problemau a oedd yn gysylltiedig â'r to blaenorol, ond mae hefyd wedi cynyddu effeithlonrwydd thermol y to gan ei fod bellach wedi'i inswleiddio'n llawn i safonau cyfredol.
Bydd y to tebyg i lechi newydd hefyd yn gweddu’n well gyda’r eiddo cyfagos ac mae 90% ohono wedi’i gynhyrchu o ddeunydd wedi’i ailgylchu.
Fel rhan o'r prosiect, mae Tai Sir Ddinbych hefyd yn uwchraddio ac yn gwella gwedd allanol y fflatiau i foderneiddio'r edrychiad a'r naws, yn ogystal â insiwleiddio’r adeilad cyffredinol yn well.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas: “Mae hwn wedi bod yn brosiect pwysig i wella effeithlonrwydd ynni’r fflatiau a fydd yn cefnogi ein tenantiaid yn well o ystyried y costau byw.
“Rwyf wedi ymweld â safle Aberadda gyda swyddogion y cyngor ac wedi fy mhlesio’n fawr gan y gwaith sydd wedi’i wneud. Mae gwedd llawer mwy modern i’r fflatiau bellach, bydd yr inswleiddiad ychwanegol yn helpu’r tenantiaid i ymdopi’n well â’r argyfwng costau byw ac mae’r prosiect cyfan yn cyfrannu at flaenoriaeth amgylcheddol y Cyngor o leihau faint o garbon deuocsid gaiff ei gynhyrchu a’i ryddhau.”
“Rwy’n edrych ymlaen at weld canlyniadau prosiectau tebyg yr ydym wedi’u cynllunio ar draws Sir Ddinbych i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ein tenantiaid.”
Credyd llun: Britmet Lightweight Roofing