
Tenantiaid Tai Sir Ddinbych yn creu cymuned gref mewn datblygiad tai newydd sbon ym Mhrestatyn.
Cynhaliodd Tai Sir Ddinbych ddigwyddiad yn ddiweddar i helpu tenantiaid Llys Llên i gwrdd â’u cymdogion newydd a chael sgwrs â staff am eu cartrefi newydd ar safle’r hen lyfrgell ym Mhrestatyn.
Daeth y tenantiaid ynghyd i roi cynnig ar argraffu torluniau leino, chwarae gemau boccia yn erbyn ei gilydd a siarad â’n Tîm Gwytnwch Cymunedol a’r Llywiwr Cymunedol lleol er mwyn dysgu am gefnogaeth gymunedol addas sydd ar gael.
Datblygiad i bobl 55 oed a hŷn yw Llys Llên. Codwyd adeilad newydd sbon ar y safle sy’n cynnwys pedwar ar ddeg o fflatiau un llofft sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, a dau o unedau ar y llawr gwaelod nad ydynt yn rhai preswyl. Dyluniwyd pob un o’r cartrefi i ddefnyddio ynni’n effeithlon iawn er mwyn cefnogi’r tenantiaid newydd â chostau byw a helpu Cyngor Sir Ddinbych a Chymru i gyflawni’r targedau ar gyfer lleihau allyriadau carbon.
Mae’r cartrefi newydd hyn ym Mhrestatyn yn dangos ymrwymiad Tai Sir Ddinbych a’r Cyngor i gwtogi ar yr amseroedd y mae pobl yn aros am lety drwy ddarparu mwy o dai cymdeithasol angenrheidiol yn y sir.
‘Bendigedig’ oedd disgrifiad Maureen Jones o’i fflat newydd yn Llys Llên, wrth iddi fwynhau cwrdd â’i chymdogion newydd yn nigwyddiad Tai Sir Ddinbych.
Meddai, “Dydyn nhw [Tai Sir Ddinbych] heb anghofio dim byd, rydw i wrth fy modd yn sgwrsio ac mae pawb mor glên. Mae gen i olygfa hyfryd o Foel Hiraddug ac rydw i’n medru eistedd yn gwylio’r machlud, mae hi mor hyfryd.”
Dywedodd Sharon Smith, “Dwi’n licio popeth am fy fflat, yn enwedig y ffenestri hyfryd, y ffordd mae’r haul yn tywynnu drwodd i’r ystafell fyw, mae ’na hen ddigon o le yma ac mae gen i wardrob fawr grand yn fy llofft.”
Daeth y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, i’r digwyddiad i gwrdd â’r tenantiaid newydd a chael ei dywys o amgylch un o’r fflatiau.
Meddai: “Mae’r fflatiau newydd yma’n ddigon o ryfeddod. O siarad â rhai o’r trigolion, mae hwythau hefyd yn fodlon dros ben. Mae’n wych gweld cynifer o denantiaid a staff yma, yn sgwrsio am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw a’r ffordd maen nhw wedi setlo yn eu cartrefi newydd.”