Gwahodd ymgeiswyr am wobrau tai pwysig
Mae Tai Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi gwobrau newydd sbon, i anrhydeddu tenantiaid am eu cyflawniadau a’u gwaith yn eu cymunedau lleol.
Caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni ym mwyty 1891 y Rhyl ar 8 Mai, 2019, ac mae’r trefnwyr wedi cadarnhau mai Jewson a Roger W. Jones y Rhyl fydd prif noddwyr y seremoni wobrwyo gyntaf.
Gwahoddir ceisiadau yn y categorïau canlynol:
- Tenant y flwyddyn
- Preswylydd tai / Grŵp cymunedol y flwyddyn
- Gwobr gwasanaethau cwsmeriaid Tai Sir Ddinbych am y flwyddyn
- Tenant ifanc y flwyddyn
- Gardd y flwyddyn – Ardal Gymunedol
- Gardd y flwyddyn – Tenant
- Prosiectau cymunedol y flwyddyn
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai: “Mae llawer iawn o waith gwych yn digwydd yn ein cymunedau lleol i wella ansawdd bywyd preswylwyr. Mae cymunedau hefyd yn cydweithio ar brosiectau lleol ar gyfer pobl leol.
“Mae gwella tai yn flaenoriaeth i’r Cyngor a bydd cynnal ein seremoni wobrwyo gyntaf yn ffordd wych i anrhydeddu unigolion a chymunedau am eu hymroddiad, ac rydyn ni’n annog cymunedau ar draws Sir Ddinbych i enwebu ymgeiswyr.”
Am fwy o wybodaeth am y gwobrau neu i enwebu ymgeiswyr, cysylltwch â Tai Sir Ddinbych ar 01824 706000, tai@sirddinbych.gov.uk neu ewch i’r wefan