Gweddnewid tai ar dair ystad yn Ninbych

Bydd eiddo'r Cyngor ar dair ystad dai yn Ninbych Uchaf yn cael ei weddnewid yn allanol yn ddiweddarach eleni, yn rhan o’r buddsoddi parhaus gan y Cyngor yn ei eiddo.

Bydd y gwaith ym Maes y Goron, Bryn Garth a Lôn Llewelyn yn cynnwys toeau newydd, rendr newydd, llinell do newydd (wynebfyrddau, bondoeau a landeri), atgyweirio concrid ar lwybrau a chodi ffensys newydd lle bo angen.

Dyfernir y contract yn ddiweddarach eleni a disgwylir i'r gwaith ddechrau yn yr hydref. Bydd y prosiect yn para tua 25 wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Dai, Rheoleiddio a'r Amgylchedd: "Mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n helaeth yn ei eiddo dros y blynyddoedd i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru. Sir Ddinbych oedd yr awdurdod cyntaf yng Nghymru i godi ei holl eiddo at y Safon ac mae'r buddsoddi wedi parhau, er mwyn sicrhau’r ansawdd a’r safon orau posibl yn ein cartrefi.  Mae buddsoddi mewn tai, gan gynnwys adeiladu rhai newydd, yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor yn ei Gynllun Corfforaethol.

“Bydd y gwaith ar y tair ystad dai hyn yn ategu'r gwelliannau sydd eisoes wedi'u gwneud i eiddo ar Ffordd Myddleton a Rhodfa Maes Glas. Bydd prosiectau yn y dyfodol yn cynnwys gweddill ein stoc dai yn Ninbych Uchaf.

“Rydyn ni’n falch o'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn Ninbych ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'n tenantiaid ar y prosiect diweddaraf hwn i uwchraddio eu heiddo. Rwy'n siŵr y byddant wrth eu bodd â’r canlyniadau terfynol.”