Tai cyngor newydd sy’n arbed ynni yn cael eu hadeiladu yn Sir Ddinbych

Mae gwaith wedi dechrau ar y tai cyngor newydd, y cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu ar gyfer ardal Sir Ddinbych mewn 30 mlynedd. 

Bydd Tai Sir Ddinbych yn adeiladu 18 tŷ-pâr dwy ystafell wely a 4 tŷ-pâr pedair ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol ar dir uwchlaw Tan y Sgubor, Dinbych, ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych.

Mae’r tai carbon isel, a fydd yn cael eu hadeiladu a’u hardystio i safon arbed ynni Passivhaus, yn rhan o darged y Cyngor i ddarparu 170 yn fwy o dai cyngor erbyn 2022.                                                                                                                

Dechreuodd y gwaith ar y safle ar 19 Hydref a disgwylir y bydd y datblygiad wedi’i gwblhau erbyn yr hydref 2021. 

Bydd fframiau a waliau’r tai newydd yn cael eu cynhyrchu oddi ar safle yng Ngogledd Cymru gan Creu Menter, is-gorff Cartrefi Conwy, gan ddefnyddio system adeiladu Beattie Passive a’r prif gontractwr ar gyfer y datblygiad yw Brenig Construction. 

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Sir Ddinbych: “Mae’r Cyngor yn falch iawn bod gwaith wedi dechrau ar y tai cyngor newydd hyn, y cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu ar gyfer y sir mewn 30 mlynedd, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda’n partneriaid ar y prosiect hwn. 

Brenig “Mae sicrhau bod yna dai ar gael i ddiwallu anghenion trigolion Sir Ddinbych yn flaenoriaeth o dan ein Cynllun Corfforaethol. 

 “Bydd y cartrefi hyn yn helpu i ddiwallu’r anghenion o ran tai i drigolion drwy ddarparu cartrefi o ansawdd sy’n fforddiadwy yn ogystal â chynnig y lefelau uchaf o inswleiddiad i ddefnyddio llai o ynni ac arbed ynni i leihau allyriadau carbon a biliau’r cartref.” 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy ei Raglen Tai Arloesol i alluogi’r Cyngor a Chreu Menter i weithio gyda’i gilydd ar y ffordd newydd yma o adeiladu cartrefi.  

Bydd y tai yn cynnwys paneli solar ar y toeau ac yn defnyddio pympiau i drosglwyddo gwres naturiol o dan y ddaear i’w cadw’n gynnes fel na fyddant angen cyflenwad nwy.  

Dywedodd Ron Beattie, Rheolwr Gyfarwyddwr, Beattie Passive: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Thai Sir Ddinbych, gyda’n partneriaid, Creu Menter i ddarparu cartrefi Beattie Passive. Bydd y tai o berfformiad ac ansawdd uchel yn dai Passivhaus, gan ddarparu lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni a chyfforddusrwydd i’r trigolion.”  

Dywedodd Howard Vaughan, Cyd-Reolwr Gyfarwyddwr Brenig Construction: “Mae’n bleser gennym fod yn rhan o brosiect Passivhaus Dinbych gyda Thai Sir Ddinbych mewn cam hanesyddol gan y Cyngor i ailafael yn y gwaith o adeiladu tai. 

 “Rydym yn hynod gyffrous bod hwn yn gynllun Passivhaus, dyma dai’r dyfodol yn sicr. 

 “Maent yn defnyddio inswleiddiad soffistigedig a thechnegau a deunyddiau adeiladu blaengar i leihau defnydd carbon a gallant leihau biliau ynni i draean neu lai mewn cartrefi sy’n fodern, yn gyfforddus ac yn bleserus i fyw ynddynt.” 

Dywedodd Adrian Johnson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Masnachol Creu Menter: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid allweddol ar y datblygiad newydd arbennig hwn. Yn ogystal ag adeiladu’r cartrefi carbon isel, arloesol hyn, mae symlrwydd y system adeiladu yn cynnig cyfleoedd gwaith i’r rhai hynny sydd bellaf o’r farchnad swyddi.  

 “Fel rhan o’n pwrpas cymdeithasol, rydym yn rhoi cyfle i weithwyr dan hyfforddiant ddysgu sgiliau newydd, wrth weithio ochr yn ochr â chrefftwyr cymwys, mewn dulliau newydd o adeiladu gan alluogi iddynt wella eu hunain a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.” 

Nodyn i olygyddion:

Mae Tai Sir Ddinbych dan reolaeth ac yn rhan o Gyngor Sir Ddinbych.