Dathlu cyflawniadau gwych mewn seremoni gwobrau tai sirol

Mae tenantiaid Tai Sir Ddinbych wedi cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau yn y seremoni Gwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych gyntaf erioed a gynhaliwyd yn y Rhyl yr wythnos hon.

Cynhaliwyd y seremoni, a drefnwyd gan Tai Sir Ddinbych, ym mwyty 1891 yn y Rhyl i gydnabod cyflawniadau a chyfranogiad tenantiaid ledled y sir, am eu gwaith yn eu cymunedau ac mewn prosiectau ym mhob rhan o’r sir.

Cafodd yr ymgeiswyr eu cynnwys ar y rhestr fer mewn wyth categori. Yr enillwyr oedd:

Gwobr Gardd Gymunol y Flwyddyn: Cymdeithas Preswylwyr Trem y Foel, Rhuthun

Mae tenantiaid Trem y Foel wedi cydweithio i blannu amrywiaeth o blanhigion lliwgar a thymhorol, a gosod addurniadau a basgedi crog i greu lle y gall pawb ei fwynhau. Mae’r tenantiaid wedi cael cydnabyddiaeth i’w gardd drwy gynllun Cymru yn ei Blodau ac yn Sioe Erddi Rhuthun fel Gardd Gymunol y Flwyddyn.

Gwobr Gardd y Flwyddyn i Denantiaid: Angela Carrington-Roberts

Mae Angela yn adnabyddus yn ei hardal am ei dawn garddio. Mae ei gardd wedi bod yn rhan o’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol, sy’n rhoi profiad unigryw o gerddi i ymwelwyr, yn ogystal a chodi arian at amryw o elusennau iechyd. Bydd hi’n plannu planhigion gwydn a thymhorol, sy’n apelio i bawb sy’n cerdded heibio. Mae hi hefyd yn ymwybodol iawn o’r amgylchedd ac felly’n cynaeafu dŵr glaw ac yn gwneud ei chompost ei hun.

Gwobr Prosiect Cymunedol y Flwyddyn: Cyfeillion Pengwern, Llangollen

Drwy eu gwaith gyda phrosiect Natur er Budd Iechyd, mae Cyfeillion Pengwern wedi helpu i wella’r amgylchedd lleol naturiol a’r gymuned ehangach. Mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymuned, gan dynnu pobl at ei gilydd i ofalu am eu hamgylchedd lleol a naturiol, ac annog eraill i ymfalchïo yn eu cymuned. Rhai o weithgareddau’r prosiect yw codi waliau sychion, coetir cymunedol, plethu gwiail helyg ac ati. Mae’r grŵp yn arwain ar hyn bellach ac yn gweithio gyda Coed Cadw.

Gwobr Grŵp Preswylwyr/Cymunedol y Flwyddyn:  Cymdeithas Gymuned Marsh, y Rhyl

Mae’r grŵp hwn yn cynnwys preswylwyr yn yr ardal sy’n cynnal Canolfan Phoenix yn wirfoddol ar Rhydwen Drive yn y Rhyl. Maent wedi creu lle diogel a chroesawus i breswylwyr o bob oed yn ogystal â chynnig rhaglen weithgareddau sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Maent yn gweithio gyda grwpiau trydydd sector, a’u gweithgareddau yn cynnwys clwb gwaith cartref, nosweithiau ffilmiau, clwb garddio, clwb swyddi ac ati. Mae’r adborth a gafwyd gan breswylwyr yn cynnwys: “Mae gwên groesawus ar wyneb y gwirfoddolwyr bob amser”, “Mae pobl ar gael yma bob amser sy’n barod i helpu”, a “Byddwch chi’n teimlo’r awyrgylch hwyliog a hapus yn syth ar ôl cerdded i mewn”.

Gwobr Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai Dinbych:  Shirley Rippingale.

Mae Shirley wedi ymddeol yn ddiweddar ar ôl gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, ac wedi byw mewn tai gwarchod ers 18 mlynedd. Dywedir ei bod bob amser yn barod i gerdded yr ail filltir yn ei gwaith fel warden. Drwy ei hymroddiad roedd yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i denantiaid a oedd yn hybu’r ymgysylltu â’r gymuned ac yn helpu tenantiaid i deimlo’n ddiogel. Roedd yn trefnu gweithgareddau cymunedol yn ei hamser ei hun, gan sicrhau bod pawb wedi’u cynnwys ac yn gallu cyrraedd gwasanaethau a sefydliadau cefnogol.

Gwobr Tenant y Flwyddyn: Stuart Nield-Siddall

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Stuart wedi profi heriau yn ei fywyd personol ac wedi eu hwynebu a’u goresgyn. Mae ei ymroddiad a’i frwdfrydedd dros waith gwirfoddol yn ei gymuned leol wedi ei helpu i fyw’n annibynnol a gwneud gwahaniaeth. Mae preswylwyr a chymunedau lleol yn canmol ei waith gwirfoddol yng Ngerddi’r Coroni, y Rhyl a’r Clwb Golff ac mae ganddynt feddwl mawr iawn ohono. Yn ogystal â gwirfoddoli, mae Stuart yn mwynhau mynd i ddosbarthiadau coginio sy’n meithrin ei sgiliau a’i hyder i fyw bywyd llawn ac annibynnol.

Gwobr Tenant Ifanc y Flwyddyn:  Bethan Owen

Rhai o’r rhesymau dros benderfyniad Bethan i redeg ei chlwb carate ei hun yn y Rhyl yw ei hawydd mawr i roi cyfle i bobl, gwneud gwahaniaeth a dysgu sgiliau newydd. Roedd hi am roi cyfle i bobl nad oeddent efallai’n gallu fforddio prisiau prif ffrwd na chontractau 12 mis, a oedd am eu datblygu eu hunain, am roi cynnig ar rywbeth newydd a dysgu carate. Mae’r clwb carate yn fan cyfarfod wythnosol lle gall teuluoedd ddod am sgwrs, cadw’n heini yn ogystal â thynnu’r gymuned at ei gilydd. Mae gwirfoddoli yn y gymuned hefyd yn bwysig iawn iddi, a dyna pam ei bod hefyd yn gadet gyda’r heddlu. Mae hi wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol, yn cynnwys Gwobr Balchder Chwaraeon, Gwobr Point of Light y Prif Weinidog, dwy wobr Oriel Anfarwolion Crefft Ymladd Rhyngwladol, gwobr Crefft Ymladd y DU i Ferched Dan 16 Oriel Anfarwolion y DU, ac wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant a mis Mai eleni enillodd wobr UK Martial Arts Magazine.

Gwobr Tai Sir Ddinbych: Gina Jones

A hithau’n Gadeirydd Cymdeithas Preswylwyr y Marsh ac yn aelod uchel ei pharch o’i chymuned, aeth Gina ati i wneud gwahaniaeth yn ei chymuned, gan herio stigma. Cymerodd y Gadeiryddiaeth yn 2017, pan oedd Canolfan Phoenix yn mynd drwy gyfnod anodd ac mae hi wedi gwneud gwyrthiau byth ers hynny. Mae’r ganolfan yn ffynnu bellach ac mae wynebau newydd yn croesi’r trothwy. Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r trydydd sector wedi bod yn allweddol wrth ddarparu rhaglen o weithgareddau a chyrsiau amrywiol er budd pawb. Diolch i Gina a’i hawydd i wneud gwahaniaeth, mae’r ganolfan yn un gartrefol a dymunol ac wedi creu newid ym mywydau pobl.

Dywedodd Jamie Groves, Pennaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai Sir Ddinbych: “Roedd yn fraint i ni gynnal y seremoni wobrwyo gyntaf erioed, i gydnabod a dathlu cyflawniadau ein tenantiaid. Roedd y panel wrth ei fodd ag ansawdd y ceisiadau a oedd yn dangos y gwaith mawr sy’n digwydd mewn cymunedau ledled y sir.

“Mae rhai enghreifftiau gwych yma o denantiaid yn gwneud ymdrech fawr i ofalu am eu heiddo, yn ogystal â rhai prosiectau cymunedol enghreifftiol sy’n helpu i wella bywyd preswylwyr sy’n byw yn eu cymuned. Mae eu gwaith caled, eu hymroddiad, a’u hymdrechion rhyfeddol yn helpu'r tîm tai i ddarparu gwasanaeth gwych i denantiaid”.

Dywedodd Geoff Davies, Swyddog Arweiniol Tai Cymunedol wrth y gynulleidfa mai gweledigaeth Tai Sir Ddinbych yw buddsoddi mewn tai cyngor a chymdogaethau o’r radd flaenaf, gan weithio gyda thenantiaid i gytuno ar flaenoriaethau, gan gydnabod hefyd mai’r bobl eu hunain sydd wedyn yn gwneud eu cymunedau’n lle gwych i fyw.

Prif noddwyr y noson oedd Roger W. Jones, y Rhyl a Jewson. Y noddwyr eraill oedd Alliance Leisure; Hags; Liberty Gas; AICO; SC2; G. Parry Home Improvements; Capita One; y Tîm Mannau Gwyrdd, Tai Sir Ddinbych; Torus; Sherratt a Howdens.

Cafwyd perfformiad gan Gôr Sain y Sir yn ystod y seremoni. Mae aelodau’r côr yn gweithio i Gyngor Sir Ddinbych.