
Tenantiaid Tai i gael eu hanrhydeddu am eu cyflawniadau
Mae’r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Tenantiaid Tai Sir Ddinbych 2022 bellach ar agor.
Mae’r digwyddiad mawreddog yn gyfle i enwebu tenantiaid a dathlu eu cyflawniadau a’u cyfranogiad ar draws y sir, am y gwaith maent yn ei wneud yn eu cymunedau a phrosiectau sy’n cael eu cynnal ar draws y Sir.
Bydd y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal ym Mwyty 1891 yn y Rhyl, yn dathlu popeth mae tenantiaid a chymunedau yn ei gyflawni, yn ogystal ag arddangos y prosiectau maent yn rhan ohonynt ar draws Sir Ddinbych.
Bydd y gwobrau eleni’n cael eu noddi gan Brenig Construction, sef y contractwr arweiniol ar brosiect Llwyn Eirin yn Ninbych, sy’n cynnwys y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu dylunio a’u hadeiladu ar gyfer ardal Sir Ddinbych mewn 30 o flynyddoedd.
Bydd ein categorïau gwobrau yn cynnwys:
- Tenant y Flwyddyn
- Tenant Ifanc y Flwyddyn (o dan 25)
- Cymydog y Flwyddyn
- Preswylydd Tai / Grŵp Cymunedol y Flwyddyn
- Gwobr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar ran Tai Sir Ddinbych
- Prosiect Cymunedol y Flwyddyn
- Arwr Cymunedol
- Gardd y Flwyddyn - Ardal Gymunedol
- Gardd y Flwyddyn - Tenantiaid/Unigolion
- Gardd y Flwyddyn - Ardal Gyffredin
- Arwr y Cyfnod Clo
Dywedodd y Cyng. Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Bob dydd rydym yn gweld llawer iawn o waith cadarnhaol yn cael ei wneud ar draws ein cymunedau, dan arweiniad ein tenantiaid, i gefnogi a gwella ansawdd bywyd i bawb.
“Mae ein cymunedau hefyd yn gweithio’n galed ar brosiectau lleol sydd wedi’u hanelu at helpu pobl leol.
“Mae cynnal y gwobrau hyn yn ffordd wych o ddathlu ac anrhydeddu’r cyflawniadau a wnaed gan unigolion a chymunedau ac rydym yn annog enwebiadau o bob rhan o Gymunedau Sir Ddinbych.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau neu i gyflwyno enwebiad, cysylltwch â Thai Sir Ddinbych ar 01824 706000, tai@sirddinbych.gov.uk neu ewch i’n gwefan www.taisirddinbych.co.uk/gwobrau
Bydd yr enwebiadau yn cau ar 29 Gorffennaf.