Tenantiaid yn symud i gartrefi newydd yn Y Rhyl
Mae gwaith wedi ei gwblhau ar ddatblygiad tai Cyngor newydd yn y Rhyl.
Mae Tai Sir Ddinbych wedi derbyn yr allweddi ar gyfer Llys Elizabeth oedd yr hen swyddfa dreth yn y dref. Mae tenantiaid yn dechrau symud i mewn i’r datblygiad newydd a ddyluniwyd ar gyfer llety preswyl i bobl 55 oed a hŷn yr wythnos hon.
Mae’r datblygiad ar y safle wedi gweld cyfanswm o 12 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gydag 8 fflat dwy ystafell wely a 4 fflat un ystafell wely, sydd wedi eu lleoli yn yr adeilad. Mae pob cartref wedi’i ddylunio i gynnig lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i gefnogi’r tenantiaid newydd gyda chostau byw a helpu Cyngor Sir Ddinbych a Chymru i gyflawni ei dargedau o leihau allyriadau carbon.
Mae pympiau gwres yr awyr wedi eu gosod i helpu i wresogi dŵr am gostau rhatach a gostwng allyriadau carbon yr adeilad. Bydd paneli solar a osodwyd ar y porth ceir y tu allan hefyd yn cynhyrchu ynni ac mae Awyriad Mecanyddol gyda system Adfer Gwres hefyd wedi’i osod i helpu i leihau’r galw am wres ac oeri ym mhob un o’r cartrefi.
Mae’r cartrefi newydd hyn yn y Rhyl yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Ddinbych i fynd i’r afael â’r amseroedd aros am lety drwy fynd i’r afael â’r angen am ragor o gyflenwad tai lleol.
Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Mae’r Cyngor yn falch o gael y datblygiad gwych hwn yn darparu cartrefi newydd i denantiaid. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am holl gefnogaeth ein partneriaid sydd wedi helpu i wneud y datblygiad hwn yn bosibl.
“Rydym yn gweithio i sicrhau bod cartrefi ar gael yn Sir Ddinbych i ddiwallu anghenion ein preswylwyr. Mae’r fflatiau newydd hyn yn diwallu’r anghenion hyn drwy ddarparu llety o ansawdd sydd nid yn unig yn fforddiadwy ond hefyd wedi’u hadeiladu i’r safonau uchaf i helpu i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon gan arwain at ostwng biliau’r cartref.”