Ein perfformiad

Rydym ni’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn codi ein safonau drwy’r amser i’r lefel uchaf posibl ac rydym am barhau i weithio gyda’n tenantiaid i gyflawni hyn. 

Arolwg o Denantiaid a Phreswylwyr 

Bob yn ail flwyddyn, gofynnwn i'n tenantiaid gymryd rhan yn ein Harolwg o Denantiaid a Phreswylwyr. Mae canlyniadau arolwg 2021/2 yn destun dathlu!

Yn gyntaf, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg diweddar. Cawsom dros 893 (28%) ymateb, 890 (99%) ohonynt ar-lein, sy’n newyddion gwych!

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu newidiadau arwyddocaol i Dai Sir Ddinbych, ein tenantiaid a’n cymunedau. Mae arnom eisiau parhau i godi ein safonau i’r lefel uchaf posib ac mae angen i ni weithio gyda chi er mwyn cyflawni hynny.

Dangosodd yr arolwg fod ein tenantiaid yn fodlon:

  • 82% ag ansawdd cyffredinol eu cartref.
  • 84% ein bod yn darparu cartref, sy’n ddiogel
  • 83% ei fod yn hawdd delio â ni
  • 64% ein bod yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt
  • 82% gyda’u cymdogaeth fel lle i fyw
  • 86% bod eu rhent yn cynnig gwerth am arian
  • 69% bod eu tâl gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian.
  • 79% gyda’r gwasanaeth trwsio a chynnal
  • 85% gyda’r gwasanaeth cyffredinol a ddarperir 

Mae’r 3 prif bennawd o’r arolwg yn cynnwys:

  • Sefydlu fforwm atgyweirio gyda thenantiaidedrych ar ffyrdd y gallwn ddatblygu ein hatgyweiriadau agwasanaethau  cynnal.
  • Cerdded o gwmpas yn ein cymunedaumwy a chynnal digwyddiadau a sioeau teithiol yn ein cymunedau.
  • Ailsefydlu ein pencampwyr ‘Ceidwaid Gwyrdd’ ihelpu i fonitro’r gwasanaeth cynnal a chadw tir asicrhau gwerth am arian ar gyfer taliadau gwasanaeth.

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran, gan fod eich barn a’ch safbwyntiau wir o bwys.

Beth nesaf? 

Ar sail y canlyniadau o Arolwg o Denantiaid a Phreswylwyr 2022/3, byddwn yn canolbwyntio ar: 

  • Cyfathrebu sut bydd gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC 2) yn cael effaith ar ein gwelliannau eiddo a sut a phryd fydd rhaglenni’n cael eu darparu.
  • Adolygu ein Polisi Atgyweirio - bydd hyn yn cynnwys ymgysylltiad mwy manwl â thenantiaid.
  • Dadansoddiad o sylwadau am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a meysydd daearyddol ble mae yna lai o fodlonrwydd.
  • Datblygu ein Cynllun Ymgysylltu gyda DTARF i edrych ar ffyrdd y gallwn wella cyfathrebu a deall sut y gallwn wrando mwy ar ein cwsmeriaid.