Rheoli’ch Contract Tenantiaeth
Rydyn ni ar gael i’ch helpu i reoli’ch Contract Tenantiaeth a deall pa mor bwysig yw’ch cytundeb Contract Tenantiaeth. Ni sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn buddsoddi yn eich cartref a’i fod mewn cyflwr da ac yn cadw at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Fel tenant, rydych chi’n gyfrifol am y canlynol:
- talu’ch rhent a thaliadau eraill yn brydlon
- gofalu am eich cartref a’ch gardd
- ymddwyn yn rhesymol fel na fyddwch yn tramgwyddo pobl eraill sy’n byw’n agos i chi
- Mae rhagor o wybodaeth yn eich cytundeb Contract Tenantiaeth
Os hoffech chi gael cymorth i ddeall sut i reoli’ch Contract Tenantiaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.