Eich helpu chi gyda’ch tenantiaeth – cadw’ch tenantiaeth
Cyflwyno’r tîm Cymorth Tenantiaid
Os ydych chi’n teimlo’n bryderus, wedi’ch llethu, yn unig neu os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi, rydym yma i helpu.
Os oes angen help arnoch gydag unrhyw beth a allai beryglu eich tenantiaeth, gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad gyda:
- Rheoli eich cartref
- Anawsterau ariannol a dyledion
- Iechyd a lles
- Argyfwng tenantiaeth
- A llawer mwy.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ganfod datrysiadau realistig er mwyn i chi allu byw yn gyfforddus, diogel a saff yn eich cartref.
I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni helpu, cysylltwch â’ch Swyddog Tai ar 01824 706000 neu anfonwch e-bost at tai@sirddinbych.gov.uk