Trwsio, cynnal a chadw a gwelliannau

Mewn arolwg diweddar, dywedodd 82% ohonoch eich bod yn fodlon ar ansawdd cyffredinol eich cartref a dywedodd 79% ohonoch eich bod yn fodlon ar y ffordd rydyn ni’n delio â gwaith trwsio a chynnal a chadw. Rydym am barhau â’n hymdrech i wella safonau ein heiddo a’n gwasanaethau.

Rydyn ni’n gyfrifol am drwsio a chynnal adeiladwaith ein cartrefi, ac rydych chi’n gyfrifol am waith trwsio bach, ond mae’n bosibl y byddwn yn gallu helpu os ydych dros 60 mlwydd oed, neu os ydych chi’n anabl.