Mathau o waith trwsio rydyn ni’n gyfrifol amdanynt
Rydyn ni’n gyfrifol am drwsio a chynnal a chadw adeiladwaith eich cartref.
Y tu allan i’ch cartref, byddwn yn trwsio:
- Simneiau a chyrn simnai
- Draeniau, cafnau glaw a pheipiau y tu allan
- Ffensys
- Sylfeini
- Drysau’r tu allan
- Waliau’r tu allan
- Llwybrau, grisiau a mynedfeydd eraill i’r adeilad
- To
Y tu mewn i’ch cartref, byddwn yn trwsio:
- Systemau gwresogi canolog
- Gwifrau trydan, socedi plygiau
- Twymwyr tanddwr yn y tanc dŵr poeth
- Drysau a fframiau drysau’r tu mewn
- Cypyrddau’r gegin
- Switsys a ffitiadau golau
- Systemau plymio, yn cynnwys peipiau, tanciau, stopfalfiau, tapiau, sestonau a ffitiadau toiled
- Sgertins
- Glanhau’r simnai
- Darparu un cwrs o driniaeth rheoli pla am lygod mawr, llygod bach, chwain, cocrotsis, neu bycs.
Mewn blociau o fflatiau a rennir, byddwn yn cynnal:
- Coridorau
- Mynedfeydd
- Cyfleusterau a rennir, yn cynnwys erialau teledu, systemau mynediad drysau, goleuadau mewn mannau cymunol, mannau cadw biniau
- Grisiau