Cyflwyno Safonau Ansawdd Tai Cymru 2023
Cyflwyno Safonau Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) - Beth mae’n ei olygu i chi!
Mae’n bosibl fod rhai ohonoch wedi clywed am Safon Ansawdd Tai newydd Cymru 2023 a ddiweddarwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Hydref 2023, ond beth mae hyn yn ei olygu i chi a sut ydym ni am ei gyflawni?
Dyma rai cwestiynau cyffredin am Safonau Ansawdd Tai Cymru, gobeithio y bydd o gymorth.
- Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru 2023?
Ym mis Hydref 2023, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno set newydd o safonau ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu tai fforddiadwy i denantiaid, o ansawdd da, addas ar gyfer anghenion preswylwyr presennol a’r dyfodol.
- Beth yw’r prif bethau sydd wedi eu cynnwys yn y safonau newydd?
Er mwyn i ni fodloni safonau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i’ch cartrefi:
- Fod mewn cyflwr da:
- Mae’n rhaid i’r waliau fod mewn cyflwr da, ac nid yn wan nac yn disgyn i lawr.
- Ni ddylech fod â thamprwydd yn eich cartref.
- Dylai’r grisiau fod yn ddiogel.
- Fod yn saff a diogel:
- Dylai drysau a ffenestri fod yn saff a diogel. Byddwn yn dilyn canllawiau’r Heddlu Diogelu drwy Ddylunio i weld sut allwn ni wneud hyn.
- Diogelwch tân – mae’n rhaid i gartrefi gael synwyryddion gwres a mwg.
- Mae’n rhaid i chi gael ffordd hawdd a diogel i ddianc os oes tân.
- Diogelwch nwy a gwresogi – mae’n rhaid i gartrefi gael synhwyrydd carbon monocsid.
- Gwiriadau diogelwch yn y cartref – os oes gan gartrefi systemau nwy, olew neu danwydd solet, mae’n rhaid i ni gynnal gwiriad diogelwch unwaith y flwyddyn. Mae’n rhaid i ni roi copi i chi o’r gwiriadau diogelwch.
- Diogelwch trydanol – dylai eich cartref gael gwiriad diogelwch trydanol bob 5 mlynedd, a byddwn yn rhoi copi i chi.
- Beidio costio gormod i’w gwresogi. A pheidio bod yn wael i’r amgylchedd:
- Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr nad yw gwresogi eich cartref yn costio gormod o arian. A sicrhau nad yw’n niweidiol i’r amgylchedd.
- Mae’n rhaid i’ch cartref adael i aer lifo drwyddo, yn enwedig mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
- Dylai fod gan eich cartrefi osodiadau a chyfarpar sy’n atal dŵr rhag cael ei wastraffu. Gall hyn eich helpu i gadw eich biliau dŵr i lawr ac mae’n dda i’r amgylchedd.
- Yn cynnwys ardal gyfleustodau a chegin fodern:
- Dylai’r ceginau fod yn llai na 16 oed, oni bai eu bod mewn cyflwr da.
- Dylai fod gan geginau newydd le ar gyfer popty, oergell a pheiriant golchi, a chyfarpar arall os oes angen.
- Mae’n rhaid i loriau’r gegin fod yn rhai di-lithr.
- Os nad oes unrhyw le i olchi a sychu dillad, dylem ddarparu peiriant sychu dillad.
- Yn cynnwys ystafell ymolchi fodern:
- Dylai’r ystafelloedd ymolchi a’r toiledau fod yn llai na 26 oed, oni bai eu bod mewn cyflwr da.
- Mae’n rhaid i’r ystafell ymolchi fod â llawr di-lithr.
- Dylent gynnwys cawod a bath os yw’n bosibl. Gall y gawod fod uwchben y bath.
- Cyfforddus ac addas i’r sawl sy’n byw yno:
- Dylai eich cartref fod â digon o le i fyw ynddo’n gyfforddus.
- Lloriau – Pan fydd tenantiaid newydd yn symud i mewn, mae’n rhaid i’r holl ystafelloedd fod â’r math cywir o loriau a bod mewn cyflwr da.
- Sŵn – Dylai’r waliau a’r ffenestri fod o ansawdd da, fel nad yw sŵn normal yn achosi unrhyw drafferth i chi.
- Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cartref yn addas i’ch anghenion, yn cynnwys tenantiaid anabl a hŷn.
- Cynnwys gardd os yn bosibl:
- Nid yw bob amser yn bosibl cael gardd gan ei fod yn dibynnu ar le rydych chi’n byw.
- Dylech allu mynd i’ch gardd yn ddiogel ac yn hawdd.
- Dylai fod llwybr i chi allu cerdded arno.
- Os yw’n bosibl, dylem ddarparu lein sychu dillad, a dylai fod llwybr yn arwain ato.
- Dylech fod â man storio y gellir ei gloi y tu allan. E.e. i storio beic neu offer gardd.
- Bod â lleoliad braf y tu allan os yn bosibl:
- Mae angen i ni geisio creu man braf y tu allan, sy’n hawdd i ofalu amdano.
- Dylai’r gofod fod yn gyfeillgar i fywyd gwyllt.
- Dylai fod digon o blanhigion a choed o gwmpas sydd hefyd yn gadael golau’r haul drwodd.
- Os nad oes gennych chi eich gardd eich hun, dylem ddarparu digon o le storio y tu allan i chi ar gyfer beics, pramiau neu sgwteri symudedd.
- Beth yw'r amserlenni?
Dyma’r prif ddyddiadau cau y byddwn yn gweithio tuag atynt:
- 31 Mawrth 2025:
- Asesu cyflwr eich cartrefi fel ein bod yn gwybod beth rydym angen ei wneud. I wneud hyn byddwn yn edrych ar y wybodaeth sydd gennym am eich cartrefi. Mae’n bosibl y byddwn angen ymweld â rhai o’ch cartrefi ond byddwn yn gadael i chi wybod os byddwn.
- Creu cynllun a gweithio allan faint y bydd yn ei gostio i gael cartrefi i fyny i’r safonau. Mae’n rhaid i ni roi hwn i Lywodraeth Cymru.
- Ymgysylltu â chi a dangos beth fyddwn yn ei wneud fel y gallwch chi ddweud eich dweud. Byddwn yn gweithio’n agos ar hyn gyda’n Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych.
- Diweddaru ein cynllun busnes i gynnwys unrhyw welliannau a gwaith rydym angen ei wneud i gydymffurfio gyda Safon Ansawdd Tai Cymru 2023.
- 31 Mawrth 2027:
- Cynhyrchu ein Llwybrau Ynni Targed (TEP) yn defnyddio’r wybodaeth rydym wedi’i chael o’ch asesiadau cartref. Mae TEP yn dangos i ni beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod eich cartref yn cynnwys system wresogi y gallwch chi fforddio ei rhoi ymlaen.
- 31 Mawrth 2034:
- Mae’n rhaid i ni fodloni’r safonau hyn.
- Beth ydyn ni wedi'i wneud hyd yma?
Hyd yma, rydym wedi bod yn gweithio drwy’r safonau SATC 2023 a rhoi cynllun gweithredu at ei gilydd y gallwn ni ei rannu â chi ym mis Mawrth 2025.Ym mis Gorffennaf, bu i ni ddiweddaru Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych ar ein cynnydd a’r hyn yr oeddem am ei wneud nesaf.
I helpu i lywio’r gwaith, rydym hefyd wedi gwrando ar eich ymatebion yn yr arolwg STAR 2023 diweddaraf ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddeall sut yr hoffech i SATC 2023 gael ei siapio.Dros y misoedd nesaf, a thrwy gydol y rhaglen SATC 2023, byddwn yn cynnig cyfleoedd i chi ymgysylltu â ni a dweud wrthym beth sy’n bwysig i chi a’ch blaenoriaethau ar sut ydym yn darparu’r rhaglen hon i chi.
- Sut y telir am hyn?
Rydym angen ystyried sut fydd y gwelliannau, yr ydym angen i gyflawni’r safonau newydd yn cael eu hariannu. Bydd y rhan fwyaf o hyn yn cael ei ariannu drwy ein hincwm o renti a rhywfaint o gyllid Llywodraeth Cymru. Penderfynir ar amserlen y gwaith yn ôl ein gallu i ariannu hyn mewn ffordd gynaliadwy.
- Sut fedra i gymryd rhan?
Rhan bwysig o’r safonau newydd hyn yw eich cyfranogiad a’ch ymgysylltiad yn y broses.Byddwn yn gweithio’n agos ar hyn gyda Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych ac rydym yn gobeithio sefydlu grŵp gorchwyl gyda thenantiaid yn y dyfodol.
Os hoffech fod yn rhan o Ffederasiwn Tenantiaid a Phreswylwyr Sir Ddinbych, neu’n rhan o grŵp gorchwyl o denantiaid, a’n cefnogi ni i roi’r SATC ar waith, cysylltwch â ni ar 01824 706000 neu anfonwch e-bost at tai@sirddinbych.gov.uk.
- Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â beth mae’r rhain yn ei gynnwys, ewch i https://www.llyw.cymru/safon-ansawdd-tai-cymru-2023-0