Enwi datblygiad tai ar ôl Eirin Dinbych

Mae datblygiad tai newydd yn Ninbych sy'n effeithlon o ran ynni wedi’i enwi ar ôl un o gynnyrch hynaf y dref.

Mae Tai Sir Ddinbych yn adeiladu 18 tŷ-pâr dwy ystafell wely a 4 tŷ-pâr pedair ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol ar dir uwchlaw Tan y Sgubor, Dinbych, ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych. Dyma'r tai cyngor newydd cyntaf i'w dylunio a'u hadeiladu yn ardal Sir Ddinbych ers 30 o flynyddoedd. 

 Enw’r datblygiad fydd Llwyn Eirin (Plum Grove) i ddathlu cofrestru Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd fel enw bwyd wedi'i amddiffyn gydag Enw Tarddiad Gwarchodedig. 

Mae Eirin Dinbych yn ffrwyth hynafol, a dywed bod mynachod Carmelaidd wedi'i dyfu yn y dref cyn gynhared â'r 13 Ganrif.   Mae gan y Dyffryn hanes hir o gynhyrchu ffrwythau, gyda dros 200 o berllannau ar ei anterth.   Felly penderfynwyd y byddai'n briodol adlewyrchu treftadaeth ffrwythau'r Dref yn enw'r datblygiad newydd.   Bydd samplau o goed Eirin Dinbych yn cael eu plannu yn y datblygiad, i annog y coed ffrwythau i ffynnu eto yn eu hamgylchedd cynhenid. 

Mae’r tai carbon isel, a fydd yn cael eu hadeiladu a’u hardystio i safon arbed ynni Passivhaus, yn rhan o darged y Cyngor i ddarparu 170 yn fwy o dai cyngor erbyn 2022.       

Mae fframiau a waliau’r tai newydd yn cael eu cynhyrchu oddi ar safle yng Ngogledd Cymru gan Creu Menter, is-gorff Cartrefi Conwy, gan ddefnyddio system adeiladu Beattie Passive a’r prif gontractwr ar gyfer y datblygiad yw Brenig Construction. 

Dywedodd y Cyng. Tony Thomas Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Sir Ddinbych:  “Mae enwi’r datblygiad newydd hwn ar ôl un o gynnyrch hynaf Dinbych yn ffordd o anrhydeddu’r dref ac yn gymorth i gynyddu bioamrywiaeth yn y sir sy’n flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor. 

“Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar y safle, ac ar ôl ei gwblhau, bydd y cartrefi hyn yn helpu i ddiwallu’r anghenion o ran tai i drigolion drwy ddarparu cartrefi o ansawdd sy’n fforddiadwy yn ogystal â chynnig y lefelau uchaf o inswleiddiad i ddefnyddio llai o ynni a lleihau allyriadau carbon i leihau biliau’r cartref a diogelu cenedlaethau’r dyfodol drwy leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil.   Gyda’r datblygiad hwn rydym yn anrhydeddu’r gorffennol, yn cefnogi’r presennol ac yn diogelu preswylwyr Sir Ddinbych yn y dyfodol.” 

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy ei Raglen Tai Arloesol i alluogi’r Cyngor a Chreu Menter i weithio gyda’i gilydd ar y ffordd newydd yma o adeiladu cartrefi.  

Bydd y tai yn cynnwys paneli solar ar y toeau ac yn defnyddio pympiau i drosglwyddo gwres naturiol o dan y ddaear i’w cadw’n gynnes fel na fyddant angen cyflenwad nwy.  

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cliciwch yma.